Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gweithredwyr pont bwyso

​​​Mae angen i weithredwyr pontydd pwyso feddu ar dystysgrif cymhwyso gan y Prif Arolygydd Pwysau a Mesurau. Mae hyn yn sicrhau y gallant gyflawni eu dyletswyddau mewn ffordd gymwys ac onest. Ni all neb weithredu offer pwyso cyhoeddus heb dystysgrif.

 


Gallwch gael tystysgrif ar ôl cwblhau prawf sylfaenol. Caiff profion eu cynnal dan Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.


Sut i wneud cais


I drefnu prawf, cwblhewch y ffurflen gais Gweithredwr Pont Bwyso Cyhoeddus (8mb DOC)​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:

 

Safonau masnach
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

 

Oriau Agor


Dydd Llun - Dydd Iau:        8.30am – 5pm

Dydd Gwener:        8.30am – 4pm

Faint mae’n ei gostio?


Ar hyn o bryd, mae’r ffi i gael tystysgrif yn dibynnu ar y cais, yn ôl argymhelliad Cydlynwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (LACORS)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 

Beth sy'n digwydd nesaf?


Ar ôl cael y ffurflen gais, bydd swyddog o Safonau Masnach Caerdydd yn cysylltu â chi i drefnu amser a dyddiad i’r prawf.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni


Cysylltu â ni

               

 

029 2087 3059

© 2022 Cyngor Caerdydd