Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Tystysgrif clybiau

​​​​Fel yr Awdurdod Trwyddedu i Gaerdydd, rydym yn awdurdodi cyflenwad alcohol, adloniant neu gyflenwi bwyd poeth gyda’r nos o safleoedd unigol. 

Sut i wneud cais

Cyn gwneud cais, dylech ddarllen ein canllawiau gwneud cais am drwydded safle / clwb (178kb PDF)​​​​​​​​​​​​​.

Gwneud Cais Ar-lein:


 Gwneud cais drwy’r post:

 

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:​

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​


 



  • cynllun o’r eiddo
  • atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu’n ddiogel ac yn unol â’r pedwar nod trwyddedu) 
  • y ffi gywir
  • Copi o lyfr rheolau’r clwb
  •  

    Rhaid i’r ceisydd hefyd gyflwyno copi o’r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i’r awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu’r cyngor.

    Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae’r ffioedd yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig (NDRV
    y safle. Gallwch weld pob ffi yn ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)​​​​.


    Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand A at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy’n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.



    Gallwch dalu fel a ganlyn:

     

    ​ Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
    Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)

    Gallwch hefyd dalu drwy BACS:

    Cod didoli: 52-21-06
    Rhif cyfrif: 20408838​
    Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​


    Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.

    Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i’r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno’r drwydded.

     

    Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o’r amcanion trwyddedu, sef:

    • atal trosedd ac anrhefn
    • atal niwsans cyhoeddus
    • diogelwch y cyhoedd
    • amddiffyn plant rhag niwed


      Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu’r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â’r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.

       

      Os cynhelir gwrandawiad, gall y Dystysgrif gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.

      Mae’r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.

       

      Datganiad o Bolisi Deddf Trwyddedu (457kb PDF)​​​​​​​​​​​​


      Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni          


      Cysylltu â ni                  


      Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).

      Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.​
        © 2022 Cyngor Caerdydd