Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiadau digwyddiadau dros dro

​​​​​Os ydych yn trefnu digwyddiad dros dro a’ch bod am weini neu werthu alcohol, cynnig lluniaeth yn yr hwyrnos, neu gyflwyno adloniant wedi’i reoleiddio, bydd angen i chi gwblhau hysbysiad digwyddiad dros dro.


Rhaid cyflwyno hysbysiadau o leiaf ddeng diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Nid yw diwrnodau gwaith clir yn cynnwys y diwrnod y daw eich cais i law’r cyngor na dyddiad y digwyddiad. Mae’r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol i hysbysiadau:

 

  • y cyfnod hiraf a ganiateir ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yw 168 awr (saith diwrnod)
  • Ni chaniateir mwy na 20 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn unrhyw safle fesul blwyddyn galendr​
  • ni ddylai digwyddiadau bara mwy na 26 o ddiwrnodau mewn un safle
  • rhaid gadael o leiaf 24 awr rhwng Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro ar unrhyw safle
  • ni fydd mwy na 499 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg
  • gall deiliad trwydded bersonol wneud cais am hyd at 50 o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 10 hwyr)
  • ni all deiliad trwydded arall wneud cais am fwy na 5 hysbysiad digwyddiad dros dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 2 hwyr)

 

Sylwer bod yn rhaid anfon copi o'r Hysbysiad Amgylcheddol Technegol i adran rheoli llygredd y cyngor ac i'r Heddlu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn anfon yr hysbysiad i'r adran drwyddedu. 


Os yw'r HAT yn cael ei gyflwyno ar wefan y llywodraeth​, yna nid oes angen i chi anfon y copïau hyn.


Dylid nodi nad yw hysbysiad digwyddiad dros dro yn eithrio’r safle o unrhyw ofynion dan ddeddfwriaeth gynllunio​.

 


Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro Hwyr


Bwriedir i hysbysiadau hwyr gael eu defnyddio gan berchenogion safleoedd y mae’n rhaid iddynt, er enghraifft, newid y lleoliad ar fyr rybudd am resymau y tu allan i’w rheolaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid eu defnyddio.

 

Mae modd dyfarnu hysbysiadau digwyddiadau dros dro hwyr hyd at bum diwrnod gwaith (ond nid yn gynt na 9 diwrnod gwaith)  cyn i’r digwyddiad ddechrau.

 


Sut i wneud cais

 

Gwneud Cais Ar-lein

 
 

Gwneud cais drwy’r post

 

Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gopi i bob un o'r canlynol (ffurflen yn unig, aiff unrhyw daliadau i Gyngor Caerdydd):

 

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​​


 

Prif Swyddog yr Heddlu yn BCU y Dwyrain
Swyddfa'r Heddlu Bae Caerdydd (Adran Drwyddedu)
James Street
Caerdydd
CF10 5EW

 

Rheolwr Gweithredol
Rheoli Llygredd
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND



Ffi hysbysiad digwyddiad dros dro yw £21.


Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)


Gallwch dalu fel a ganlyn:


Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)​
​ Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)​

Gallwch hefyd dalu drwy BACS:

Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838​
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​


Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.

Unwaith y daw eich cais am hysbysiad digwyddiad dros dro i law, caiff pawb sy’n ei gael 3 diwrnod gwaith i’w wrthwynebu ar sail unrhyw un o’r pedwar amcan trwyddedu: 


  • atal trosedd ac anrhefn
  • atal niwsans cyhoeddus
  • diogelwch y cyhoedd
  • amddiffyn plant rhag niwed


    Os nad oes gwrthwynebiad, gall y digwyddiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd.


    Os oes gwrthwynebiad, byddwn yn trefnu gwrandawiad i ystyried y dystiolaeth a gallwn benderfynu na fydd modd cynnal eich digwyddiad. Os oes gwrthwynebiad i hysbysiad digwyddiad dros dro a gyflwynwyd yn hwyr, ni fydd modd cynnal y digwyddiad.



    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

    Cysylltu â ni

    Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).


    Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.


    ​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd