Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Scaffolding

Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae dyletswydd ar y Cyngor Sir o  dan Ddeddf Priffyrdd 1980 Is-adran 169 i reoli sgaffaldau gaiff eu codi ar briffordd fabwysiedig.

I reoli nifer a lleoliad y sgaffaldau ar y priffyrdd mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cofrestru ar gyfer cwmnïau sgaffaldau sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.  Cyn bod unrhyw gwmni yn gwneud cais am drwydded sgaffaldau rhaid i’r cwmni gofrestru gyda Chyngor Caerdydd. 

Er mwyn cael eu hystyried i gael eu cofrestru gyda’r Cyngor Sir er mwyn cael caniatâd i osod Sgaffaldau ar briffordd fabwysiedig, mae’n rhaid i fasnachwyr gwblhau’r ffurflen gofrestru sydd wedi ei atodi a darparu: 

  • copi o’ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Prawf o’ch cymhwysedd y gellir ei arddangos drwy ddarparu eich manylion aelodaeth NASC neu fel arall gopïau o gardiau CISRS Sgaffaldwyr 

Cosb am anwybyddu



Mae Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £100 gaiff eu gorfodi ynghyd â’r ffi drwydded os caiff sgaffaldau eu codi ar briffordd gyhoeddus heb drwydded ddilys. Bydd yr Hysbysiad Cosb Benodedig hefyd yn weithredol os na lynir wrth y Telerau a’r Amodau . Mae manylion ynghylch yr hysbysiadau cosb benodedig hyn a’r ddeddfwriaeth sy’n eu rheoli i’w canfod yn y dolenni isod.

Sut i wneud Cais

Cyn gwneud cais awgrymwn eich bod yn  darllen y Telerau ac Amodau a geir yn y ddolen isod.

Gallwch chi wneud cais am drwydded scaffaldiau ar-leinEfallai y bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf. ​

Beth sy'n digwydd nesaf?

​Unwaith i’r cais gael ei dderbyn caiff ei brosesu ac fe gysylltir â chi i dderbyn taliad drwy Gerdyn Debyd/Credyd. 

Rhaid gwneud taliad yn llawn cyn y gellir cyhoeddi trwydded. 

Os nad yw'r cais yn cael ei gymeradwyo, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi gyda'r rhesymau dros wrthod caniatâ​d yn yr achos hwn.​
© 2022 Cyngor Caerdydd