Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysfyrddau

​Rhoddir caniatâd gan y Cyngor i ddefnyddio’r Briffordd Gyhoeddus ar gyfer Hysbysfyrddau neu Ffensio Heras drwy gyflwyno trwyddedau fel yr Awdurdod Priffyrdd dan Ddeddf Priffyrdd 1980. 

Mae eitemau a osodir ar y briffordd heb drwydded ddilys yn rhwystr anghyfreithlon a gall y Cyngor gymryd camau gorfodi mewn achosion o’r fath.  

Cosb am anwybyddu 

Bydd camau gweithredu yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ynghyd â chost y drwydded. Mewn amgylchiadau pan nad yw busnesau’n cydymffurfio, mae’n bosibl y byddwn yn symud yr hysbysfyrddau neu ffensio heras oddi ar y briffordd gyhoeddus. 

Yn ogystal, byddwn yn gorfodi Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 os na lynir at y Telerau ac Amodau. 

Cyfarwyddwr y cwmni neu’r swyddog awdurdodedig sy’n gyfrifol am sicrhau y dilynir y Telerau ac Amodau yn llawn.  

Sut i wneud cais 

Cyn gwneud cais awgrymwn eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau

Gallwch chi wneud cais am drwydded palis ar-lein​​​​​​​.

Efallai y bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf. ​​


Rhaid i Ddeiliad y Drwydded sicrhau:

  1. Bod yr holl Hysbysfyrddau’n cael eu codi gan bersonél hyfforddedig a chymwys.
  2. Bod digon o olau a gardiau’n cael eu darparu a’u cynnal yn unol â’r Llawlyfr Arwyddion Traffig: Pennod 8 a Diogelwch Gwaith Ffordd a Stryd (Llyfr Coch) tra bydd y drwydded ar waith.
  3. Bod Hysbysfyrddau’n cael eu goleuo trwy'r adeg o hanner awr cyn y machlud tan hanner awr ar ôl codiad yr haul oni bai y cytunir fel arall gyda'r Arolygydd Priffyrdd.
  4. Bod Hysbysfyrddau’n cael eu clirio o’r Briffordd erbyn dyddiad dod i ben y drwydded.
  5. Bod unrhyw hysbysiadau a graffiti anghyfreithlon yn cael eu symud o’r Hysbysfyrddau cyn gynted ag y cânt eu nodi. 
  6. Bod y strwythur yn cael ei wynnu (lefel daear i leiafswm o 2.3 metr) ac yn cael ei godi o fewn 400mm o ymyl y cwrbyn (gan alluogi cerbydau i orhongian). Os nad oes modd cynnal hyn, rhaid cysylltu â Chyngor Caerdydd cyn dechrau’r gwaith. Gellir cymeradwyo lliwiau corfforaethol ond gellir eu defnyddio ond gyda chytundeb Cyngor Caerdydd. 
  7. Bod Hysbysfyrddau yng Nghanol Dinas Caerdydd, ardaloedd siopa a llwybrau sy’n sensitif o ran traffig yn cael eu codi a’u datgysylltu ar ddydd Sul (oni bai y cytunir fel arall gyda Chyngor Caerdydd).
  8. Bod troedffordd â lled 1.5m o leiaf yn cael ei chynnal mewn ardaloedd cerddwyr prysur, gallai 1.2 metr fod yn dderbyniol mewn ardaloedd llai prysur. Mae angen y lled hwn i alluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn neu’r rhai sydd â chŵn tywys basio’n ddiogel. Cedwir lled lleiaf y droedffordd a gytunwyd arno ar gyfer defnydd y cyhoedd, rhaid gwarchod hwn trwy’r amser ac ni ddylid ei rwystro. Cyn codi, rhaid i’r ymgeisydd gadarnhau gyda Chyngor Caerdydd y pellter lleiaf angenrheidiol ar gyfer clirio'r droedffordd. Os nad oes modd cynnal y droedffordd, rhaid darparu llwybr arall. 
  9. Rhaid darparu llwybr digonol fel na fydd yn rhaid i'r cyhoedd fynd i mewn i'r ardal gwaith pan fo'r Hysbysfyrddau’n cael eu codi a’u datgysylltu, gydag arwyddion a gardiau digonol a llwybrau gwyro. 
  10. Bod rhif cyswllt argyfwng neu allan o oriau’n cael ei atodi i’r holl Hysbysfyrddau.

    Cosb am beidio â chydymffurfio



    O ran difrod i'r priffyrdd, bydd Cyngor Caerdydd yn casglu tâl am yr holl gostau ar gyfer gwaith atgyweirio gan Ddeiliad y Drwydded.

    Os methwch gydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn a’r holl ddeddfwriaeth berthnasol byddwch yn atebol i gamau gorfodi sy’n cynnwys Hysbysiad Cosb Benodedig Rhan IX Deddf Priffyrdd 1980 am rwystro priffordd o Adran 137 (Cosb am rwystr bwriadol) Cosb Sefydlog o £100 o Adran 137ZA Pŵer i orchymyn i’r troseddwr symud y rhwystr o Adran 172 Hysbysfyrddau i gael eu codi tra bo gwaith adeiladu ar y gweill ac ati. (Troseddu dan yr adran hon) Cosb Sefydlog o £100 o Adran 173 Hysbysfyrddau i gael eu codi’n ddiogel. (Pŵer i symud ac adennill costau) o Adran 149 Symud pethau wedi’u gadael ar Briffyrdd sy’n niwsans ac ati. (Pŵer i symud ac adennill costau)

    Indemniad Cyfreithiol



    Bydd Deiliad y Drwydded yn indemnio Cyngor Caerdydd neu ei weision a’i asiantau a’u hindemnio’n barhaol yn erbyn unrhyw atebolrwydd, rhag pob hawliad, galw, gweithred, cost a difrod sy'n codi o ganlyniad i godi sgaffald ar y lôn gerbydau, troedffordd neu lain laswellt. Mae cyfnod yr indemniad i fod yn ddilys o ddyddiad codi'r sgaffald i'r dyddiad y caiff ei symud. £5,000,000 yw’r swm a'i cwmpasir gan y polisi ar gyfer unrhyw un digwyddiad gydag yswirir dibynadwy. Yn ôl yr angen, bydd Deiliad y Drwydded yn rhoi’r polisi neu
 

Oriau Agor 

Dydd Llun i Ddydd Iau: 8:30am i 5pm 

Dydd Gwener : 8:30am i 4pm 

Beth sy'n Digwydd Nesaf? 

Unwaith y derbynnir cais caiff ei asesu gan ein Swyddogion Priffyrdd ac fe drefnir ymweliad â’r safle os bydd angen. Ar yr ymweliad safle mae’n bosib y bydd yr arolygydd priffyrdd yn cytuno i amodau ychwanegol neu diwygiedig, caiff y rhain eu cadarnhau yn ysgrifenedig wrth gymeradwyo’r cais. 

Os caiff y cais ei gymeradwyo bydd swyddog cyllid yn cysylltu â chi i drefnu taliad cerdyn debyd neu c​​redyd. 

Os yw’r cais yn aflwyddiannus, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi i roi’r rhesymau dros wrthod y cais yn yr achos hwn​

Cysylltu â ni

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd