Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwydded sgip

Fel yr Awdurdod Priffyrdd mae dyletswydd ar Gyngor Dinas Caerdydd dan Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980 i reoli ​sgipiau a roddir ar y briffordd.​
 

Cofrestru ​

Er mwyn rheoli nifer y sgipiau ar briffyrdd mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno cofrestr o gwmnïau sgip sy’n gweithredu yng Nghaerdydd.   Cyn i unrhyw gwmni wneud cais am drwydded sgip mae’n rhaid eu bod wedi eu cofrestru gyda Chyngor Caerdydd. 

I gael eu hystyried ar gyfer cofrestru a chael caniatâd i roi sgip ar y briffordd fabwysiedig, mae’n rhaid i​​ cyn y gallant wneud cais am Drwydded Sgip.

  • copi o’ch Tystysgrif Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • copi o’ch Tystysgrif Trwydded Cludwr Sbwriel
  • copi o’ch Trwydded Gyrrwr Cerbyd Nwyddau – Ffurflen OL1​​

Sut y mae gwneud cais am drwydded sgip? 

Gwnewch cais am drwydded sgip ar-lein. Dilynwch y dolenni er mwyn ‘Prynu Rhith Drwyddedau’.
 
Dylai pob cais gael ei wneud o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw.



 

Beth yw pris Trwydded Sgip Unigol?

  • £42.76 – fesul sgip  ar gyfer trwydded 7 diwrnod
  • £85.51 – fesul sgip ar gyfer trwydded 28 diwrnod


Ni chaiff unrhyw ad-daliadau eu rhoi ar ôl dyddiad dechrau’r drwydded.

Os caiff y Sgip ei leoli mewn maes parcio talu ac arddangos mae'n bosibl y codir taliadau dyddiol ychwanegol.  

 

Beth sy'n Digwydd Nesaf?

Pan fyddwch yn gwneud eich cais, bydd angen ei asesu i ddechrau i sicrhau ei fod yn gymwys. Os cymeradwyir y  cais byddwch yn derbyn cadarnhad ar e-bost a chodir y tâl ar eich cyfrif yn awtomatig. Yna byddwch yn gallu defnyddio eich sgip yn unol â’r telerau ac amodau.  


 

Cosb ar gyfer peidio â glynu at y telerau ac amodau

Bydd Hysbysiadau Cosb Benodedig o hyd at £300 yn cael eu gorfodi os nad yw'r Telerau ac Amodau yn cael eu parchu. Ceir manylion am hysbysiadau cosb benodedig a'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â nhw yn y Ffurflen Gais Cyn-cofrestru Cwmni Sgip.​
© 2022 Cyngor Caerdydd