Mae ein tîm Safonau Masnach yn gweithio i roi gwybod i’r cyhoedd a oes unrhyw gynhyrchion neu nwyddau wedi’u hadalw a helpu i gynnig rhagor o wybodaeth am sut i ddelio â chynhyrchion mewn ffordd ddiogel.
Rhybuddion cyfredol ar ddiogelwch cynhyrchion a Safonau Masnach a chyngor:
Mae adran Safonau Masnach Caerdydd yn awyddus i rybuddio unrhyw un sy'n chwilio am fenthyciad ar y rhyngrwyd i fod yn wyliadwrus dros ben ar ôl iddyn nhw gael cwynion gan bobl sydd wedi derbyn galwadau ffôn oddi wrth sgamwyr ar ôl bod yn chwilio am fenthyciad ar y we. Mae'r sgamwyr wedi honni eu bod yn ffonio ar ran busnes o'r enw Sky Blue Loans, gan roi cyfeiriad a rhif ffôn yng Nghaerdydd. I sicrhau benthyciad gofynnir i ddefnyddwyr dalu'r taliad cyntaf ymlaen llaw. Os ydyn nhw'n cytuno gwneud hynny gofynnir iddyn nhw am daliadau ychwanegol ar gyfer 'trethi' ac i ddanfon yr arian atyn nhw'n bersonol. Mae rhai cwsmeriaid wedi rhoi rhai cannoedd o bunnau i'r sgamwyr, ond wrth gwrs does dim sôn am y benthyciad wedi hynny. Cynghorir unrhyw un sydd wedi cael eu dal gan y sgâm i gysylltu â llinell gymorth Gweithredu yn Erbyn Twyll 0300 123 2040
Mae Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy'n chwilio am fenthyciad i ystyried cysylltu ag Undeb Credyd lleol, sy'n gallu cynnig cynlluniau cynilo arian a benthyciadau am brisiau rhesymol.
0300 123 6696