Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Iechyd a diogelwch

Rhaid i chi sicrhau bod eich busnes yn cyflawni’r safonau a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch gofynnol.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y safonau hyn ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.



Rydym yn ymchwilio i gynion am faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle megis:



  • Cyflogwyr sy’n methu â darparu dillad diogelwch neu gyfleusterau toiled digonol.
  • Amodau gwaith peryglus.

 

Rydym yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith mewn busnesau megis: 

  • ​swyddfeydd a siopau
  • warysau
  • sefydliadau arlwyo
  • lleoedd chwaraeon ac adloniant 
  • gwestai a llety preswyl
  • lleoliadau gofal plant
  • gofal a llety anifeiliaid
  • gwasanaethau cosmetig, tatŵo a thriniaethau harddwch
  • Mannau addoli.


Gwnawn hynny drwy gynnal arolygiadau wedi’u cynllunio a mentrau wedi’u targedu.

Rydym yn ymchwilio i ddamweiniau a gofnodwyd, clefydau, digwyddiadau peryglus a chwynion am ddiogelwch yn y gweithle.

Rydym hefyd yn sicrhau safonau diogelwch mewn digwyddiadau awyr agored mawr a gynhelir yn y ddinas.

 

Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch


Os oes gennych bryderon am yr amodau neu’r cyfleusterau yn eich gweithle ac nad ydych wedi gallu datrys y mater gyda’ch cyflogwr, gallwch roi gwybod i ni am​ fater iechyd a diogelwch. 

Gallwch roi gwybod am y mater yn ddienw os yw’n well gennych.

 

Ymchwilio i ddamweiniau



Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn datgan bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr, person hunangyflogedig, neu rywun sy’n rheoli safle gwaith roi gwybod am anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus penodol i’r awdurdod gorfodi. 



Gwybodaeth am beth y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd dan RIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995).



Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch dan RIDDOR i roi gwybod am rai damweiniau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a’u cofnodi gan ddefnyddio’r dull cyflymaf posibl.



Diben hyn yw ein galluogi ni i wneud y canlynol:

  • ymchwilio i beth achosodd y ddamwain
  • ei atal rhag digwydd eto
  • galluogi deiliaid dyletswyddau i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

 

Rhoi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad difrifol



Adrodd ar-lein​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd




Cysylltwch â:



Canolfan Gyswllt Damweiniau
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG


Ffôn: 0845 300 9923 (codir cyfraddau lleol)

 Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am - 5pm


Ar gyfer ddigwyddiadau mwy difrifol megis:

  • damweiniau angheuol
  • damweiniau lle mae nifer o weithiwr wedi’u hanafu’n ddifrifol
  • damwain sy’n achosi anaf difrifol i aelod o’r cyhoedd
  • damweiniau a digwyddiadau sy’n achosi tarfu ar raddfa fawr megis cau ffyrdd, gwacáu cartrefi a busnesau, neu nifer fawr o bobl yn mynd i’r ysbyty

 

Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Yr Adran Gorfodi Iechyd a Diogelwch 

0300 123 6696​

​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd