Gallwn gyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
- Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig
- Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig a gynhelir gan Fenter Ariannu Preifat (MAP)
- Cytundeb 278
- Cytundeb 38
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC)
- Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol
Sut mae gwneud cais?
Mae angen anfon pob ymholiad ynghylch yr eiddo’n bod yn destun unrhyw dir priffordd neu dir cyngor gwirioneddol neu honedig at y Tîm Ystadau Strategol ar propinfo@caerdydd.gov.uk gan eu bod nhw’n gweithredu cronfa ddata gwasanaeth benodol sydd â manylion am berchnogaeth tir y cyngor.
Faint fydd hyn yn costio?
Bydd yn costio £123.75 fesul Chwiliad Priffordd (heb TAW). Does dim modd ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu’r cais.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Unwaith y mae’r Chwiliad Priffyrdd wedi’i gyflawni, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r dogfennau a llythyr cyflwyno. Gallwch fewngofnodi yn ystod unrhyw gam i weld statws eich cais am Chwiliad Priffyrdd.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi’u nodi. Unwaith y mae’r Chwiliad Priffyrdd wedi’i gyflawni, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r dogfennau a llythyr cyflwyno. Gallwch fewngofnodi yn ystod unrhyw gam i
weld statws eich cais am Chwiliad Priffyrdd.