Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymholiadau ynghylch statws priffyrdd

Diben ymholiad ynghylch statws priffyrdd yw canfod yn union faint o’r briffordd a gaiff ei chynnal a’i chadw’n gyhoeddus sy’n cyffinio ag eiddo a ph’un a yw’r briffordd yn ffinio’n uniongyrchol ag ystlys adeilad yr eiddo.
 
Mae gan lawer o safleoedd manwerthu a masnachol yng Nghaerdydd leiniau o droedffordd sy’n dir preifat sy’n ffinio ag ystlys yr adeilad, ac felly perchennog yr eiddo sy’n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw yn hytrach na’r Cyngor.
 
Ceir dwy ffordd o gyflawni ymholiad:
 

 

 
 

Chwiliadau pridiant tir llawn

 
Fel arfer cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ran darpar-brynwr fydd yn cynnal chwiliadau o’r Gofrestr Pridiannau Tir, er bod gan unrhyw un yr hawl i gynnal chwiliadau o’r fath. 
 
Diben chwiliad yw datgelu i’r sawl sydd â buddiant unrhyw hawliadau ariannol neu benderfyniadau neu gyfyngiadau eraill y Cyngor sy’n effeithio ar yr eiddo neu glwt o dir, cynlluniau ffyrdd a chynlluniau traffig gerllaw.
 
Mae’r Cyngor a Chymdeithas y Cyfreithwyr yn argymell y dylid chwblhau Chwiliad Pridiant Tir Lleol llawn ar gyfer pob trafodyn tir, ac nid ddylai prynwr ddibynnu ar Chwiliad Personol yn unig.
 
Cais am chwiliad pridiant tir lleol llawn.
 
© 2022 Cyngor Caerdydd