Nod Cyngor Caerdydd yw sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd annibynnol i gefnogi, cynnal a thyfu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd.
Gwnaed cyfres o argymhellion ar gyfer cylch gwaith a chyfansoddiad y Bwrdd o fewn yr Ymchwil ac Adroddiad Strategaeth Caerdydd gan Sound Diplomacy (4.5MB PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd, ac mae Cyngor Caerdydd yn cynnig sefydlu'r Bwrdd ar sail yr argymhellion hynny yn ogystal â chylch gorchwyl drafft. Darllenwch y Grynodeb Gweithredol (10MB PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Pwrpas y Bwrdd yw hyrwyddo sin cerddoriaeth Caerdydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, diogelu a hyrwyddo cerddoriaeth ar lawr gwlad a phob lefel, gan ddarparu llwyfan ar gyfer mwy o gyfathrebu a chydweithio ar draws y sector.
Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galluogi arbenigwyr o wahanol sectorau i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin er mwyn elwa a datblygu ecoleg a busnes cerddoriaeth yng Nghaerdydd, gan gefnogi'r dyhead bod Caerdydd yn cael ei dathlu fel Dinas Gerdd.
Ymunwch â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd
Hoffem wahodd ceisiadau i ymuno â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn cynnwys 18 o aelodau sy'n cynrychioli amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd, yn ogystal â chymunedau amrywiol y ddinas.
Bydd y Cyngor yn trefnu galwad agored o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn seiliedig ar y meini prawf hyn. Bydd y Cyngor yn sicrhau amrywiaeth o gcynrychiolaeth i'r Bwrdd a chydbwysedd rhwng y rhywiau. Bydd darpar aelodau yn llofnodi'r cylch gorchwyl drafft, sy'n amodol ar gymeradwyaeth Cabinet Cyngor Caerdydd.
Yn amodol ar gymeradwyaeth Cabinet Cyngor Caerdydd, bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan arweinydd y Cyngor, gyda chymorth swyddogion, gyda'r Cyngor yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth. Bydd swyddogion y Cyngor yn rheoli'r broses ddethol gychwynnol, gan gyflogi Sound Diplomacy fel asesydd annibynnol ar gyfer recriwtio.
Os hoffech wneud cais am swydd ar y Bwrdd, e-bostiwch CV diweddar a datganiad o ddim mwy na 750 gair yn amlinellu pam yr hoffech chi'r swydd a pha gryfderau ac arbenigedd proffesiynol y byddech chi'n eu cyflwyno i'r Bwrdd. Mae'n ofynnol i chi hefyd amlinellu pa grŵp penodol yr ydych yn ei gynrychioli, gan gyfeirio at gylch gorchwyl pwynt 4. Anfonwch at y:
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13ydd Medi 2019 am 5pm.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Bydd y Cyngor yn prosesu pob data personol yn unol ag egwyddorion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC).
Crynodebau o Gyfarfodydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd
Datganiadau i’r wasg